Beth sydd ar gael?
Mae CBAC yn darparu cyfres o bum cymhwyster penodol i oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Gellir ennill y cymwysterau hyn drwy sefyll profion ar ddiwrnodau penodol. Mae’r cymwysterau wedi cael eu hachredu gan adran reoleiddio Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae CBAC hefyd yn aelod o ALTE (Cymdeithas i Brofwyr Ieithoedd Ewrop). Mae lefel yn cyfeirio at y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a hefyd at Fframwaith Cyfeirio Cyffredin Ewrop.
Beth yw’r lefelau?
* I ymgeiswyr sydd wedi cyflawni unedau llwybr credydau CBAC, nid oes ffi i sefyll yr arholiad. Ymgynghorwch â’ch canolfan ranbarthol i sicrhau bod yr arholiadau ar gael yn eich ardal chi. Gellir cael manylion cyswllt y canolfannau rhanbarthol yn y llyfrynnau i ymgeiswyr.
Sut mae cofrestru?
Mae llyfrynnau i ymgeiswyr ar gael yn rhoi manylion am yr arholiadau, yn cynnwys ffurflenni ymrestru. Dylid dychwelyd y ffurflenni ymrestru i’ch canolfan ranbarthol Cymraeg i oedolion (y sieciau’n daladwy i’r ganolfan ranbarthol berthnasol). Mae’r llyfrynnau i ymgeiswyr, manylebau llawn i diwtoriaid, cyn-bapurau a gwybodaeth am adnoddau eraill ar gael ar wefan CBAC, neu drwy gysylltu â:
Cymraeg i Oedolion, CBAC, 245 Rhodfa’r Gorllewin, Caerdydd, CF5 2YX.
Ffôn: 029 2026 5007
E-bost: cymraegioedolion@cbac.co.uk
Gwefan: www.cbac.co.uk